AC(4)2012(6) Papur 4 rhan 1

Dyddiad: 12 Gorffennaf 2012
Amser:
    10:30-12:30
Lleoliad:
  Swyddfa’r Llywydd
Enw’r awdur a rhif cyswllt:
    Ross Davies, est 8197

Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2011-12

1.0    Diben a chrynodeb

1.1     Bob blwyddyn, mae Comisiwn y Cynulliad yn llunio Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a wnaed o ran y camau gweithredu a nodwyd yng Nghynllun Cydraddoldeb 2008-2012. Mae’r Adroddiad hwn yn trafod gwaith y mae staff Comisiwn y Cynulliad wedi’i wneud i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng mis Ionawr 2011 a mis Mawrth 2012.  Dyma Adroddiad terfynol ein Cynllun Cydraddoldeb 2008-2012.

2.0    Argymhellion

2.1     Gwahoddir Aelodau Comisiwn y Cynulliad i adolygu a chymeradwyo’r Adroddiad drafft i’w gyhoeddi.

3.0    Trafodaeth

3.1     Mae’r Adroddiad hwn yn nodi’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, gan amlygu astudiaethau achos ac enghreifftiau o’n gwaith. Mae’r Adroddiad yn adeiladu ar y wybodaeth am gydraddoldeb a gyhoeddwyd gennym ym mis Ionawr 2012 yn ogystal â gwybodaeth ac ystadegau am recriwtio, anghydfodau, cwynion, mamolaeth, gwaith rhan amser a’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu a nodwyd yn y Cynllun.

3.2     Ymysg uchafbwyntiau ein gwaith yn ystod 2011-12 mae:

·                Hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd drwy ein hymgyrch ‘Pleidleisiwch 2011’ drwy gynhyrchu gwybodaeth mewn ystod o fformatau hygyrch;

·                Datblygu’r ffordd rydym yn ymgysylltu â phobl amrywiol Cymru. Rydym wedi parhau i groesawu ystod eang o ymwelwyr â’r Cynulliad ac wedi gweithio mwy gyda grwpiau cymunedol amrywiol a sefydliadau’r trydydd sector ledled Cymru;

·                Helpu ein rhwydweithiau staff i chwarae rôl weithgar wrth asesu effaith ein polisïau;

·                Bod yn yr 20fed safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2012;

·                Helpu aelodau o staff i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain (BSL);

·                Cynnal ystod eang o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan grwpiau amrywiol, gan gynnwys digwyddiadau i nodi Mis Hanes Pobl Dduon, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a lansio Diverse Cymru.

·                Datblygu amrywiaeth o daflenni gwybodaeth i roi gwybod i Aelodau am eu cyfrifoldebau fel cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

3.3     Mae’r Tîm Cydraddoldeb wedi gweithio gyda chydweithwyr drwy’r holl sefydliad i gofnodi cynnydd ar ein camau gweithredu. Mae rheolwyr ym mhob gwasanaeth wedi darparu tystiolaeth ar gyfer yr Adroddiad a’r diweddariad i’r cynllun gweithredu.

3.4     Ar ôl i’r Comisiwn ei gymeradwyo, caiff yr Adroddiad ei gyhoeddi ar ein gwefan, yn unol â’n dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

3.5     Cyhoeddwyd ein cynllun newydd ym mis Ebrill 2012 a chyflwynir adroddiad ar y cynnydd ym mis Ebrill 2013.